Senedd Cymru

Welsh Parliament

Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Economy, Trade and Rural Affairs Committee

Blaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd

Priorities for the Sixth Senedd.

ETRA - 47

Ymateb gan: Gynghrair Polisi Bwyd Cymru

Evidence from: Food Policy Alliance Cymru

 

Papur gan Gynghrair Polisi Bwyd Cymru: Blaenoriaethau ar gyfer Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Crynodeb:

Mae Cynghrair Polisi Bwyd Cymru (y Gynghrair) yn credu bod economi fwyd Cymru yn flaenoriaeth y dylai'r pwyllgor ymchwilio iddi ar fyrder yn ystod 6 mis cyntaf ei waith.  Mae cynhyrchu bwyd lleol o fudd i'r economi ac yn chwarae rôl bwysig wrth greu system fwyd gydnerth ac amrywiol i Gymru. Mae hefyd yn cynnal ac yn adfywio cymunedau ac yn rhoi cyfle i gysylltu gweithgaredd economaidd newydd â nodau polisi eraill lle mae bwyd yn chwarae rhan ganolog.

Y cyd-destun:

O ran systemau sy'n gorfod newid i greu dyfodol atgynhyrchiol, bwyd yw'r man cychwyn. Yng Nghymru mae hwn yn drawsnewidiad lle mae egin gwyrdd pwysig eisoes wedi dechrau ymddangos, mae llawer iawn o waith ac ymchwil wedi'i wneud ac mae cronfa sylweddol o gyfalaf deallusol a phrofiad ar gael. Mae cyd-destun presennol argyfyngau natur ac hinsawdd, y costau cynyddol a'r dioddefaint a achosir yn sgil clefydau sy'n gysylltiedig â deiet ac anghydraddoldebau'n gysylltiedig â bwyd yn ein gadael ar groesffordd sy'n cael ei chydnabod yn fyd-eang.

Mae deall gwerth cyflenwad bwyd mwy lleol yn seiliedig ar gynnyrch o ansawdd uwch, sy'n fwy maethlon ac wedi'i dyfu'n gynaliadwy, yn fater mwy dybryd fyth, o ystyried y ffaith bod amaethyddiaeth yn cyfrannu tuag 16% o gyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru a bod anghydraddoldebau iechyd sy'n ehangu o ganlyniad i incwm isel, deiet gwael a mynediad at fwyd maethlon wedi arwain at sefyllfa lle mae gan yr awdurdod lleol sydd â'r lefel uchaf o ordewdra (Merthyr Tudful) 20.7% o blant sy'n ordew - mwy na dwbl yr ardaloedd awdurdodau lleol hynny sydd â'r niferoedd isaf (Bro Morgannwg a Sir Fynwy). Yn y cyfamser, mae'r rhai sy'n gweithio yn y sector bwyd yn sylweddol fwy tebygol o wynebu ansicrwydd ynghylch eu cyflenwad bwyd o gymharu â'r rhai sy'n gweithio mewn sectorau eraill oherwydd cyflogau isel, sy'n aml yn golygu bod yn rhaid iddynt ddefnyddio'r banciau bwyd y mae eu cyflogwyr mor falch o'u cefnogi. O ran diogelwch bwyd, mae methiannau yn y gadwyn cyflenwi bwyd bresennol fel y rhai yr ydym yn eu gweld ar hyn o bryd oherwydd prinder gyrwyr lorïau, yn dangos pa mor agored yr ydym erbyn hyn i siociau yn y system fwyd fyd-eang.

 

Rydym yn gwerthfawrogi’r ffaith fod system fwyd amrywiol a gwydn sy’n gofyn am gymysgedd o gynhyrchu domestig a chyfleoedd i fasnachu.  Fodd bynnag, y cwestiwn i ni yng Nghymru yw a oes gennym yr hyder, y creadigrwydd a'r ewyllys i wneud y newidiadau radical sydd angen eu gwneud ar fyrder i'r system bresennol er mwyn bod yn wirioneddol drawsnewidiol, meithrin cydnerthedd ac osgoi arferion bwyd-fel-arfer? Er mwyn gwneud hyn mae angen i ni gydnabod a deall realiti’r system fwyd gyfredol. Mae angen i ni gydnabod bod yr hyn sy'n ymddangos yn rhad, mewn gwirionedd yn creu costau anghynaliadwy enfawr mewn mannau eraill o ran niwed i'r amgylchedd ac i'n hiechyd gyda bwyd yn un o'r prif ffactorau sy'n gyfrifol am wariant y GIG o ganlyniad i gynnydd mewn clefydau sy’n gysylltiedig â deiet.

 

Fel ymarferwyr profiadol ym mhob agwedd ar y system fwyd o'r fferm i'r plât, credwn mai'r ateb i'r cwestiwn hwnnw yn bendant yw oes, a nawr yw'r amser i weithredu.

Pam mae hyn yn berthnasol i'r Pwyllgor:

Mae'r potensial economaidd yn gyffrous ac yn gymhellol. Yng Nghymru, mae'r hyn yr ydym yn ei fwyta a'r hyn yr ydym yn ei gynhyrchu fel bwyd yn ddau beth tra gwahanol. Mae'r system fwyd fodern wedi dod yn ddibynnol iawn ar ddwyster a chrynodiad y cynhyrchu, ac mae arbenigedd daearyddol yn dod yn norm. Yn gyffredinol, rydym yn cael bwyd o'r ffynonellau rhataf (yn arwynebol o leiaf). Mae mwyafrif helaeth o werth ein cynnyrch cynradd yn dod o fan arall. Yng Nghymru rydym yn cadw cyn lleied ag 8% o werth ein cynnyrch amaethyddol gan fod y premiymau ariannol hynny yn cael eu gwireddu mewn man arall yn y gadwyn gyflenwi gan broseswyr, cyfanwerthwyr a manwerthwyr y tu allan i'r wlad. Dros nifer o flynyddoedd mae hyn wedi cael cryn effaith, yn enwedig ar yr economi wledig yn sgil colli gweithgaredd economaidd a swyddi sy'n arwain at sgil-effeithiau difrifol i gymunedau o ran anghydraddoldeb, cydlyniant cymdeithasol a'r Gymraeg. Byddai'r manteision economaidd i'n cymunedau yn sgil newid y darlun hwnnw yn drawsnewidiol o ran adleoleiddio gweithgaredd economaidd, gan ddod â bywyd yn ôl i'r cymunedau lle rydym wedi gweld yr effeithiau niweidiol hyn.

Mae'n hanfodol ein bod yn cyd-fynd â mesurau sydd â'r nod o lywio ffermwyr oddi wrth arferion sy'n niweidiol i'r amgylchedd gyda gweledigaeth gydlynol o gyd-destun economaidd i fod yn sail i'r newid hwnnw ac yn hynny o beth byddem yn gofyn i'r pwyllgor edrych yn benodol ar rôl Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r canlynol:

1.    Caffael cyhoeddus a llwybrau i'r farchnad

Bydd y pwyllgor yn ymwybodol o'r gwaith sylweddol sy'n digwydd ledled Cymru mewn perthynas â'r economi sylfaenol a'r potensial i gynhyrchu a democrateiddio cyfoeth ar lefel leol. Mae gwariant cyhoeddus yn elfen hanfodol yn yr ymdrech hon ac mae ganddo'r potensial i fod yn drawsnewidiol yn y system fwyd drwy gyfeirio gwariant mewn ffyrdd sy'n mynd i'r afael ag amcanion polisi ar yr hinsawdd, bioamrywiaeth, iechyd ac addysg yn rhannol o leiaf drwy flaenoriaethu gwerth cymdeithasol yn y broses gaffael. Mae ysgogi gweithgaredd economaidd drwy gontractau cyhoeddus yn cyflwyno'r cyfle i danategu buddsoddiad, ysgogi cynhyrchu cynradd mwy amrywiol (ym maes garddwriaeth er enghraifft) a sbarduno cynhyrchu eilaidd sy'n darparu gwerth ychwanegol i'r economi leol. Wrth helpu i danysgrifennu risg a rhoi hyder yn y modd hwn, gall yr un cadwyni cyflenwi, seilwaith lleol (hybiau bwyd, partneriaethau bwyd, prosesu bwyd, amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned ac ati) a'r modelau cydweithredol sy'n dod i'r amlwg helpu i hwyluso llwybrau cyflenwi byrrach i'r plât cyhoeddus a chyflwyno cyfleoedd newydd ym marchnad y sector preifat.

2.    Cynhyrchu eilaidd a chadw gwerth

Mae'r angen i wireddu gwerth a'i gadw yng Nghymru a'i chymunedau yn fater y mae angen rhoi sylw iddo ar fyrder. Mae mynediad cynyddol at brosesu cig (yn enwedig lladd-dai) a chynnyrch llaeth yn rhwystr i sefydlu cadwyni cyflenwi lleol, creadigrwydd a menter wrth gynhyrchu bwyd yn lleol ac mae'r rheolaeth o ran y rhan hon o'r gadwyn fwyd yn gorffwys yn nwylo llai a llai o gynhyrchwyr. Yr ateb i hyn yw cydweithredu a seilwaith sy'n eiddo i'r gymuned gyda Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan allweddol mewn hwyluso hyn a darparu cymorth economaidd.

3.    Datblygu'r Sector Garddwriaeth

Mae gennym gyfle mawr i ddatblygu'r sector garddwriaeth yng Nghymru. Ar hyn o bryd dim ond chwarter dogn o Lysiau y pen y dydd y mae Cymru'n ei gynhyrchu ar 0.2% o dir, ond mae potensial i gynhyrchu 5 dogn y dydd. Dengys y dystiolaeth (gan gynnwys rhai enghreifftiau nodedig yng Nghymru) y gall garddio marchnad greu cyfleoedd cyflogaeth sylweddol o ddarnau cymharol fach o dir a dyma yw asgwrn cefn economaidd ail-leoleiddio'r gadwyn fwyd mewn ardaloedd gwledig a threfol.

4.    Strategaeth Bwyd Cymunedol

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i lunio Strategaeth Bwyd Cymunedol y mae Cynghrair Polisi Bwyd Cymru yn ei groesawu fel cyfle hanfodol i gydlynu polisi bwyd ar draws pob maes o'r llywodraeth gan gynnwys iechyd, addysg, newid yn yr hinsawdd a'r economi - dull yr ydym yn ei weld yn datblygu'n llwyddiannus yng Nghymru drwy rwydwaith esblygol o Bartneriaethau Bwyd Cynaliadwy[1]. Ein barn ni yw bod y trawsnewidiadau sylweddol yn y system fwyd sydd eu hangen arnom er mwyn gwneud ein cyflenwad bwyd yn fwy cydnerth ac ymateb i'r heriau yn yr holl feysydd hyn hefyd yn cynnig cyfleoedd enfawr i drawsnewid economïau lleol o'r gwaelod i fyny a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran mynd i'r afael ag anghydraddoldebau strwythurol yng nghymunedau Cymru.

5.    Bil Amaethyddiaeth (Cymru)

Cadarnhaodd y Rhaglen Ddeddfwriaethol fod y Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno bil amaethyddiaeth i'r Senedd yn ystod y flwyddyn Seneddol hon. Bydd y darn hollbwysig hwn o ddeddfwriaeth yn dylanwadu ar ein tirweddau, ein hecosystemau a'n cymunedau gwledig am flynyddoedd lawer i ddod. Rydym yn gweld cydnerthedd ecolegol, cynhyrchu bwyd a hyfywedd hirdymor ffermio yng Nghymru fel elfennau cyd-ddibynnol. Er enghraifft, mae amgylchedd iach yn sail i gynhyrchu bwyd ei hun. Yn hanfodol, rhaid i'r Bil Amaethyddiaeth ymateb i'r her driphlyg o ddarparu bwyd fforddiadwy a chynaliadwy o ansawdd uchel yn ogystal ag adfer natur a chyrraedd sero-net o ran carbon. O ystyried cwmpas eang y Bil, rydym yn argymell yn gryf bod y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig nid yn unig yn sicrhau bod craffu ar y Bil Amaethyddiaeth yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer 2021/22 ond ei fod hefyd yn rhoi ystyriaeth ddwys i gyd-graffu ychwanegol ar y Bil gyda'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.  Dylai craffu ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig, a fydd yn debygol o fod y prif gyfrwng ar gyfer cymorth amaethyddol wrth i’r Cynllun Taliadau Sylfaenol ddod i ben yn raddol, a dylai cynlluniau amaeth-amgylcheddol cysylltiedig hefyd gael lle amlwg yn rhaglen waith y ddau Bwyllgor.

Rydym yn ddiolchgar am y cyfle i wneud y cyflwyniad hwn ac yn gobeithio bod y pwyllgor yn cytuno â ni ynghylch yr angen i flaenoriaethu bwyd yn ei drafodaethau. Rydym yn edrych ymlaen at ymgysylltu ymhellach â‘r Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig mewn ymdrechion deinamig i newid y ffordd y mae Cymru yn cynhyrchu ac yn bwyta ei bwyd er gwell.

Ynglŷn â Chynghrair Polisi Bwyd Cymru:

Mae Cynghrair Polisi Bwyd Cymru yn gyfuniad o sefydliadau a rhanddeiliaid sy'n datblygu a hyrwyddo gweledigaeth ar y cyd ar gyfer system fwyd Cymru. Drwy gydweithredu, ymgysylltu ac ymchwil nod y Gynghrair yw:

·         Cydgynhyrchu gweledigaeth ar gyfer system fwyd yng Nghymru sy'n cysylltu cynhyrchu, cyflenwi a bwyta ac yn rhoi ystyriaeth gyfartal i iechyd a llesiant pobl a natur.

·         Eirioli dros newid polisi er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng ecolegol, yr argyfwng iechyd y cyhoedd a'r cynnydd mewn ansicrwydd o ran y cyflenwad bwyd.

·         Sicrhau bod Cymru wedi'i chysylltu â pholisïau a chyfleoedd ymchwil y DU a'r system Fyd-eang ehangach.

 

Mae’r sefydliadau canlynol sy’n aelodau o’r Gynghrair wedi cyfrannu at yr ymateb hwn:

 

·         Synnwyr Bwyd Cymru

·         Y Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad

·         Cynghrair Gweithwyr Tir Cymru

·         Rhwydwaith Ffermio sy'n Gyfeillgar i Natur

·         Social Farms & Gardens

·         Sustainable Food Places

·         Consortiwm Amaethyddiaeth Drefol

·         WWF Cymru

·         Simon Wright, Wright's Food Emporium ac un o sylfaenwyr Cydweithfa Bwytai Annibynnol Cymru (WIRC)

 

Gallwch hefyd ddarllen y Maniffesto a baratowyd gan Gynghrair Polisi Bwyd Cymru cyn Etholiadau Senedd 2021 yma.

 



[1] Mae 8 ardal ledled Cymru sydd wedi neu sydd wrthi'n datblygu Partneriaethau Bwyd Cynaliadwy traws-sector a gefnogir gan Synnwyr Bwyd Cymru a'r rhwydwaith Sustainable Food Places. Yn ddiweddar dyfarnwyd statws Arian Sustainable Food Places i Bwyd Caerdydd - un o ddim ond 4 lle yn y DU